Ôl Troed Carbon | Naratif Rhyngweithiol | Dylunio Digidol
EINGWEITHDAI
Deunyddiau sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg
Materials available in English and Welsh
Gweithdy #1
Yn y gweithdy cyntaf, mae’r myfyrwyr yn trafod y berthynas rhwng carbon deuocsid a’r hinsawdd, ac yn creu modelau syml o foleciwlau megis carbon deuocsid, methan a dŵr. Maent yn cyfrifo eu hôl troed carbon eu hunain ac yn trafod ffyrdd o’i leihau.

Yn yr ail weithdy, mae’r myfyrwyr yn darllen No World 4 Tomorrow, sef gwaith o ffuglen ddigidol a grëwyd yn benodol ar gyfer y prosiect hwn, ac yn defnyddio’r gwaith hwn i drafod eu syniadau a’u barn am newid hinsawdd.
Gweithdy #2

Gweithdy #3
Yn y trydydd gweithdy, mae’r myfyrwyr yn cynhyrchu eu gweithiau ffuglen ddigidol eu hunain, gan roi cyfle iddynt archwilio’r syniadau hyn yn fwy manwl. Ym mhob gweithdy, mae’r myfyrwyr yn cwblhau arolwg byr i asesu eu hagweddau personol tuag at newid hinsawdd.

Yr Ymchwilwyr…
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan Dr Jennifer Rudd yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Lyle Skains ym Mhrifysgol Bournemouth, Dr Ruth Horry yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe, a Dr Helen Ross yn Helen’s Place.