Rydym wedi creu pecyn athro o gynlluniau gwersi, gwaith cartref, tiwtorialau ac adnoddau, gyda’r cyfan wedi’i amlinellu yn ein Map Adnodd isod. Mae’r pecyn hwn ar gael am ddim i bawb i’w ddefnyddio; y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw am i chi roi ychydig bach o wybodaeth ynghylch sut rydych chi’n ei ddefnyddio, gan mai prosiect ymchwil ydyn ni. Dyma’r ddolen i’r pecyn athro sy’n mynd â chi i ffurflen gyflym ar gyfer yr wybodaeth yma, ac yna’n rhoi’r ddolen i ffolder Dropbox i chi lle gallwch gael mynediad at y deunydd a’i lawrlwytho.
Map Adnodd ar gyfer defnyddio Chi a CO2 gyda’ch Myfyrwyr
Pecyn Athro Llawn (ffurflen sy’n arwain at ffolder Dropbox)
Dolenni i Weithdy 1:
Creu Ffugenw -> Arolwg Myfyriwr Cyn-Gweithdy
Os ydych chi’n defnyddio Chi a CO2 fel rhan o’n prosiect ymchwil, gofynnwch i bob myfyriwr gwblhau’r arolwg cyn Gweithdy 1 os gwelwch yn dda. Bydd y myfyrwyr angen ffugenwau maent yn eu defnyddio ar gyfer y ddau arolwg, mewngofnodi a chwarae No World 4 Tomorrow, a chyflwyno eu naratifau digidol rhyngweithiol eu hunain i’r prosiect.
Os hoffech chi weld y cwestiynau fydd yn cael eu gofyn i’r myfyrwyr yn yr arolygon, gallwch lawrlwytho’r raddfa yma, a rhai nodiadau ar y raddfa yma.
Dolenni i Weithdy 2:
No World 4 Tomorrow
Fideo yn egluro No World 4 Tomorrow
Er mwyn chwarae’r gêm, bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio’r ffugenwau maent wedi’u creu yng Ngweithdy 1.
Dolenni i Weithdy 3 a 4:
Twine
Tiwtorial Twine
Cyflwyniad YouTube i Twine
Bydd y tiwtorialau hyn yn eich helpu chi a’r myfyrwyr ddechrau arni gyda Twine. Nodwch os gwelwch yn dda bod llawer iawn o diwtorialau Twine i’w cael. Gallwch ddod o hyd i rai o’n hargymhellion ar y ddolen hon ar y bar ochr ar y chwith o dan “Other Tutorials”.
Awgrym o Stori
Un o’r rhwystrau mwyaf rydym ni wedi’i brofi gyda’r gweithdai oedd lle roedd myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd i greu stori. Rydym wedi creu’r awgrym yma o stori i’w helpu; erbyn y diwedd, bydd ganddynt stori fach a pheth cod y gallant ei gopïo yn syth i mewn i’w gêm Twine.
Cyflwynwch Gemau Myfyrwyr
Rydym wrth ein bodd yn cael gemau fan fyfyrwyr! Rydym yn dethol enghreifftiau i’w rhoi ar y wefan er mwyn ysbrydoli myfyrwyr eraill.
Arolwg Myfyrwyr Ôl-Weithdy
Os ydych chi’n defnyddio Chi a CO2 fel rhan o’n prosiect ymchwil, gofynnwch i bob myfyriwr gwblhau’r arolwg hwn ar ddiwedd y gweithdy olaf os gwelwch yn dda.