
Beth rydym yn ei wneud?
Addysgu am newid hinsawdd drwy weithgareddau digidol
Mae “Chi a CO₂” yn brosiect arloesol a rhyngddisgyblaethol sy’n cyfuno gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu cyhoeddus er mwyn annog pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed i ymgysylltu â phroblem fyd-eang newid hinsawdd ar lefel leol, ac i ymrwymo i newidiadau ymddygiad a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon.
Sut mae’r prosiect yn gweithio?
Defnyddio dull STE(A)M o ddysgu
Drwy dri gweithdy a gynhelir yn yr ystafell ddosbarth, rydym yn addysgu’r myfyrwyr am rôl carbon deuocsid mewn newid hinsawdd ac am yr allyriadau carbon deuocsid sy’n gysylltiedig â gweithgareddau bob dydd. Mae’r myfyrwyr yn darllen/chwarae No World 4 Tomorrow, sef ffuglen ddigidol ryngweithiol a ddatblygwyd yn arbennig ar thema newid hinsawdd, ac yna’n creu eu straeon rhyngweithiol eu hunain ar y pwnc.
Trwy drafod a chreu eu gweithiau ffuglennol eu hunain, rydym yn annog y myfyrwyr i archwilio eu syniadau am newid hinsawdd a’r rôl y mae dinasyddion unigol yn ei chwarae wrth lunio hinsawdd y byd. Nod yr astudiaeth yw gwerthuso effeithiolrwydd y gweithdai hyn wrth ymgysylltu pobl ifanc â newid hinsawdd, ac asesu a yw eu teimladau personol ynghylch eu cyfrifoldebau eu hunain dros eu hallyriadau carbon deuocsid yn newid dros gyfnod y gweithdai.

Pwy ydym ni?
Yr Ymchwilwyr
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan Dr Jennifer Rudd yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Lyle Skains ym Mhrifysgol Bournemouth, Dr Ruth Horry yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe, a Dr Helen Ross yn Helen’s Place.

Beth mae eraill yn ei ddweud…
"
This project is timely given the coming significant changes to the national curriculum in Wales, especially in better understanding the impact of science and technology on our lives. The opportunity for interdisciplinary, cross-curricular working, framed around major societal issues such as climate change – as demonstrated by the “You and CO2” project – provides the foundation for developing ambitious, capable learners who can be ethical, informed future citizens of Wales.
"
"
[You and CO2] would definitely be something that we can use in our year 9 Spec for next year.
"
"
The workshops will offer us the opportunity to trial some approaches that will be beneficial in the delivery of the new curriculum 2022.
"
"
The students really enjoyed the task and really got the concept of using story writing to educate on the science. They loved the blend of science, coding and creative storytelling.
"